Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017
Amser:
09.30 -
11.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4419
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Dr Richard Piper, Alcohol Research UK Andrew Misell, Alcohol Concern Cymru Lynden Gibbs, Byddin yr Iachawdwriaeth David Emery, Byddin yr Iachawdwriaeth Tim Ruscoe, Barnardo’s Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Sargent (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Alcohol Concern Cymru.
2.2 Cytunodd Andrew Misell a Dr Richard Piper i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:
- nifer yr unigolion sy’n derbyn triniaeth cymorth alcohol yng Nghymru;
- y grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod yn aml-ddefnyddio alcohol a chyffuriau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyddin yr Iachawdwriaeth a Barnardo’s.
4.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Chris Snowdon, y Sefydliad Materion Economaidd.
4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y gyllideb ddrafft 2018-19.
4.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan yr Athro Stockwell, Prifysgol Victoria.
4.4a Nododd y Pwyllgor y crynodeb o’r gwaith a wnaed gan Dîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer dechrau 2018, a chytunodd arni.